2014 Rhif 2714 (Cy. 271)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

1. Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 704/2014 sy’n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/2013 ar ofynion ardystio ar gyfer mewnforio egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin.

2. Mae rheoliad 2 yn gweithredu Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 704/2014 yn gyfan drwy ddiwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3376 (Cy. 298)).

3. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 

 

 


2014 Rhif 2714 (Cy. 271)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed                                  8 Hydref 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad

Cenedlaethol Cymru               10 Hydref 2014

 

Yn dod i rym                       6 Tachwedd 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([1]) a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd a mesurau sy’n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd neu a fwydir iddynt([2]), polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd([3]) a mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd([4]).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at offeryn UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([5]), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2014, deuant i rym ar 6 Tachwedd 2014 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

2.(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009([6]) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)     yn lle’r diffiniad sy’n dechrau gyda’r geiriau “mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”)” rhodder y diffiniad a ganlyn—

mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (Regulation 853/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) “Rheoliad 1688/2005” (Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 1020/2008”(“Regulation 1020/2008”), “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”), “Rheoliad 211/2013” (“Regulation 211/2013”) a “Rheoliad 702/2013” (“Regulation 702/2013”)  yr ystyron a roddir iddynt yn eu trefn yn Atodlen 1;”; a

(b)     yn lle’r diffiniad o “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”)([7]) rhodder—

ystyr “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”) yw Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn, Erthygl 14 o Reoliad 882/2004 i’r graddau y mae’n gymwys i reolaethau swyddogol i wirio cydymffurfedd ag agweddau ar gyfraith bwyd anifeiliaid neu gyfraith bwyd nad ydynt wedi eu cwmpasu gan Gyfarwyddeb 97/78/EC([8]), Erthyglau 15 i 24 o Reoliad 882/2004, Rheoliad 669/2009, Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/2013([9]) a Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 704/2014 sy’n diwygio Rheoliad 211/2013 ar ofynion ardystio ar gyfer mewnforio egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin([10]).”

(3) Yn Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth yr UE) ar ôl y paragraff olaf, mewnosoder—

“ystyr “Rheoliad 211/2013” (“Regulation 211/2013”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/2013 ar ofynion ardystio ar gyfer mewnforion egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin.”

 

 

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

8 Hydref 2014



([1])           1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) (“Deddf 2006”) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) (“Deddf 2008”). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf 2006 ac mae wedi ei ddiwygio gan adran 3(3) o Ddeddf 2008 a'r Atodlen iddi a chan erthygl 3 o Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) 2007 (O.S. 2007/1388) a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddo.

([2])           O.S. 2005/1971. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y dynodiad hwn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p. 32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi.

([3])           O.S. 2005/2766. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y dynodiad hwn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p. 32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi.

([4])           O.S. 2008/1792.

([5])           OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n addasu nifer o offerynnau sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o’r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu: Addasiad i’r weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu – Rhan Pedwar (OJ Rhif L 188, 18.7.2009, t. 14).

([6])           O.S. 2009/3376 (Cy. 298), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/626 (Cy. 90), O.S. 2013/479 (Cy. 55) ac O.S. 2013/3007 (Cy. 298).

([7])           Mewnosodwyd y diffiniad o “y Darpariaethau Mewnforio” gan O.S. 2013/3007 (Cy. 298).

([8])           Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC sy’n gosod yr egwyddorion sy’n llywodraethu trefnu gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy’n dod i’r Gymuned o drydydd gwledydd (OJ L 24, 30.1.1998, t .9).

([9])           OJ Rhif L 68, 12.3.2013, t. 26, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 704/2014.

([10])         OJ Rhif L 186, 26.6.2014, t. 49.